top of page

Mae planhigion lluosflwydd yn para

Vegetable Garden Beds

Mae’r Green Perennialist yn credu bod gan bob lle y potensial i feithrin ffordd gynaliadwy o fyw. Mae ein meithrinfa annibynnol ar gyfer planhigion lluosflwydd yn cofleidio ffordd o feddwl sy’n canolbwyntio ar systemau wrth gynhyrchu bwyd, gan ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau planhigion sy'n meithrin systemau tyfu gwydn ac yn gwella iechyd ecolegol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nid awydd i werthu planhigion wnaeth danio ein cariad tuag at blanhigion lluosflwydd; rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio yn ein system ni’n hunain, ar ein tir ni’n hunain, ers blynyddoedd.  Rydyn ni’n adnabod y planhigion hyn ac yn gwybod sut maen nhw’n tyfu yn y DU. Mae eu gwerthu yn gam naturiol, sy'n deillio o'r gwaith a wnawn ein hunain i ddatblygu ecosystem wydn a gweithredol ar ddarn o dir a gâi ei ddefnyddio cynt ar gyfer pori yn unig. 

Sefydlwyd The Green Perennialist gan dîm ŵr a gwraig. Gyda'n gilydd, mae gennym amrywiaeth o gymwysterau a phrofiadau, a hynny mewn meysydd fel rheoli planhigion ac amaeth-goedwigaeth, yn ogystal â degawdau o brofiad o systemau bwyd y DU.

Rydyn ni wedi cymryd y profiadau hynny ac wedi datblygu rhagolwg o’r byd sy'n seiliedig ar syniadau o gydweithio, meddwl dros sawl cenhedlaeth, a systemau amlganolog o werth. 

Er y gall hyn i gyd swnio ychydig yn gymhleth, rydyn ni’n gwneud pethau gan ystyried y dyfodol ac am y rhesymau cywir; nid mesur ein llwyddiant yn nhermau ariannol yn unig a wnawn, ond ceisio sicrhau'r budd mwyaf posibl i bawb.

Yma yng ngogledd Cymru, rydyn ni’n tyfu ein holl blanhigion gan ddefnyddio compost sy’n rhydd o fawn ac allbynnau organig yn unig. Mae ein darn bach o fryn wedi bod yn eiddo i ni ers dros ddegawd, felly rydyn ni’n adnabod ein pridd a'r fioamrywiaeth y gweithiwn gyda nhw yn dda iawn. Trwy weithio'n araf, gan ddefnyddio'r hyn a gynigir gan ein tir, rydyn ni’n cynhyrchu planhigion gwydn ac addasedig, sy'n barod i ffynnu ar gyfer ein cwsmeriaid. 

bottom of page