top of page

THE GREEN
PERENNIALIST
Mae’r Green Perennialist yn feithrinfa blanhigion annibynnol sydd wedi ymrwymo i feithrin dyfodol gwydn. Ein gweledigaeth yw byd sy'n llawn planhigion lluosflwydd sy'n dod ag amrywiaeth o fanteision i unrhyw le, gan weithio i wella’r system fwyd ehangach. Ein nod yw datblygu detholiad nodedig o blanhigion ac amrywiaeth o weithgareddau addysgol sy'n gwireddu’r nod hwnnw.
Ein Planhigion
Rydyn ni'n brysur yn tyfu! Byddwn gyda chi cyn gynted ag y byddwn yn ddigon mawr i gael ein rhyddhau i'r byd...
Tu Hwnt i Blanhigion
Gallwn eich helpu i dyfu eich lle, eich tîm neu’ch cymuned gydag amrywiaeth o swyddogaethau cymorth. Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau dylunio, ymgynghori a datblygu hyfforddiant wedi'u teilwra ar gyfer unigolion, cwmnïau a grwpiau cymunedol sy'n dymuno rhoi gwerthoedd y 'Green Perennialist' ar waith.

Casglu Lleol
Mae gwasanaeth casglu a gollwng lleol ar gael o fewn 20 milltir i'n meithrinfa.
Tyfwyd yn y DU
Mae ein holl blanhigion yn cael eu tyfu yn y DU gan ddefnyddio compost sy’n rhydd o fawn.
Dosbarthu
Gallwn ddosbarthu i bob cyfeiriad ar dir mawr y DU
bottom of page


